Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Hydref 2021
Amser:
09.04 -
09.40
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu gwneud datganiad o gydymdeimlad yn dilyn marwolaeth Syr David Amess AS ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw, wedi’i ddilyn gan funud o dawelwch. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd Arweinwyr y Pleidiau a Jane Dodds hefyd yn talu teyrnged yn dilyn y funud o dawelwch.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 2 Tachwedd 2021 –
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-Net (60 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Lleihau allyriadau o gynhyrchu ynni (45
munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Rhaglen Ôl–osod er mwyn Optimeiddio 2 –
Cynhesrwydd Fforddiadwy Arbennig (45 munud)
Dydd Mercher 9 Tachwedd 2021 –
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45
munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 17 Tachwedd 2021 –
· Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23 (30 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn gofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Bwyd (Cymru) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
4 Busnes y Senedd
4.1 Dadl Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn - Craffu ar Weithredu Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y cyd rhwng y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar graffu ar weithredu cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015).
Tynnodd y Trefnydd sylw at y ffaith bod datganiad y llywodraeth y cyfeirir ato yn y llythyr yn ychwanegol at, ac nid yn lle, ymateb i'r adroddiad ar y testun hwn a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ddiwedd y Bumed Senedd.
5 Y Rheolau Sefydlog
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cais i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i ganiatáu dirprwyon yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac eithrio wrth ystyried cwynion. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddiwygio Rheol Sefydlog 22 fel rhan o'i adolygiad o'r Rheolau Sefydlog.
Unrhyw faterion eraill
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y llywodraeth yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 yr wythnos hon, ac felly'n cynnig bod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm yn cael ei ymestyn o 21 Hydref i 11 Tachwedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r estyniad.
Ymgysylltu ag Ewrop
Trafododd y Pwyllgor Busnes enwebiadau i Aelodau gynrychioli'r Senedd ar y canlynol:
· Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop; a
· Phwyllgor y Rhanbarthau - Grŵp Cyswllt y DU
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod enwebiadau gyda'r nod o sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau; byddai penderfyniad yn cael ei wneud y tu allan i'r pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried cydbwysedd rhwng y rhywiau pan gynigir newidiadau i aelodaeth pwyllgorau'r Senedd.
Trefniadau’r Cyfarfod Llawn yn ystod Lefel Rhybudd 0
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau i adolygu nifer yr Aelodau sy'n gallu bod yn y Cyfarfod Llawn yn bersonol. Byddai unrhyw newidiadau yn seiliedig ar reoliadau a chanllawiau iechyd cyhoeddus perthnasol ac yn destun asesiadau risg.